Ffôn: 029 2038 1850 : E-bost: arc@caerdydd.gov.uk

Cymunedau Diogel

Sicrhau Lles

Diogelu

Am y ARC

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi datblygu Canolfan Ymateb i Larymau Categori 1 flaengar a chyfoes. Oddi yma mae’r tîm Gwasanaethau 24/7 sy’n rheoli Teleofal Caerdydd, Concierge Tai a Wardeiniaid Lleol, ynghyd â gwasanaethau Diogelwch ac Ymateb yn gweithredu.

Mae’r system Teledu Cylch Cyfyng yn monitro ardaloedd cymunedol o ystafell reoli ganolog gyda thîm cyfeillgar cymwys, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos. Mae camerâu yn cael eu rheoli a’u monitro mewn amser real, ac mae hyn yn galluogi ymateb priodol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r camera hefyd yn recordio ac mae’r deunydd ffilm ar gael ar gyfer tystiolaeth, yn unol â rheoliadau ansawdd cenedlaethol.

Mae camerâu cylch wedi dod yn fesur pwysig wrth atal trosedd ac ar gyfer diogelwch. Mae camerâu’n coladu delweddau a drosglwyddir at ddyfais recordio lle y maen nhw ar gael i’w gwylio, eu hadolygu ac/neu eu cadw.

Mae cadw delweddau yn golygu bod modd eu dadansoddi ar ôl digwyddiadau sydd o gymorth i’r sefydliadau gorfodi’r gyfraith sy’n eu harchwilio ac mae’n helpu i gadw manwl gywirdeb y cytundebau tenantiaeth ar ran y cyngor.

Amcan yr ARC yw rhoi amgylchedd brafiach a mwy diogel i holl drigolion blociau Fflatiau Uchel y Cyngor.

Polisi Ansawdd

Jeremy Griffiths
Rheolwr Diogelwch Corfforaethol

Wedi gwasanaethu am 31 o flynyddoedd yn Heddlu De Cymru mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys yn y maes archwilio a throsedd a drefnir, braint imi oedd cymryd swydd fel rheolwr Diogelwch yng Nghyngor Dinas Caerdydd ym mis Mawrth 2016. Mae teledu cylch cyfyng wedi bod yn rhan hollbwysig o fy ngwasanaeth gyda’r heddlu ar gyfer digwyddiadau wrth batrolio a materion mwy difrifol a heriol. Mae symud i rôl yn y (ARC) nad yw wedi bod yn gweithredu’n hir yn fy ngalluogi i ddod â’r wybodaeth a’r profiad o’r heddlu i amgylchedd lle bo awydd i gynnig y ARC a’i galluoedd yn fwy corfforaethol.

Arsylwodd y tîm teledu cylch cyfyng ar ddynion wrth ymyl un o’r blociau uchel yn ddiweddar yn ceisio torri i mewn i gerbyd llonydd. Cysylltodd staff y ARC â’r heddlu gan roi lleoliad y drosedd iddynt. Ar ôl hynny, cafodd y dynion eu harestio’n agos at gerbyd arall.

Ein Gwasanaethau

Ein nod yn ARC Caerdydd yw cynnig amddiffyniad ac ymateb 24/7 i bobl a lleoedd gan gyfuno presenoldeb pell a lleol i ddarparu gwasanaeth sicr a dibynadwy.

Monitro Larymau

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu Canolfan Derbyn Galwadau Larymau Categori 1 fodern lle mae’r Tîm Gwasanaeth 24/7 yn gweithredu Teleofal Caerdydd, gwasanaeth Concierge Tai, Gwasanaethau Warden Lleol a’r gwasanaethau Diogelwch ac Ymateb. Mae’r system Camerâu Cylch Cyfyng yn cynnwys monitro ardaloedd cyffredin o bellter o ystafell reoli ganolog gan dîm staff cyfeillgar 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Caiff y camerâu eu rheoli a’u monitro ar y pryd, felly mae’n bosibl ymateb yn addas i unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Cedwir yr holl ddeunydd fel bo’n addas er mwyn ei gael fel tystiolaeth, yn unol â rheoliadau safon cenedlaethol.

Camerâu Cylch Cyfyng ac Ymateb

Mae ein hystafell reoli’n monitro cannoedd o gamerâu yng Nghaerdydd, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Camerâu Cylch Cyfyng wedi dod yn ddull sicrhau diogelwch ac atal trosedd pwysig. Mae camerâu yn casglu delweddau sy’n mynd i ddyfais recordio lle gellir eu gwylio, eu hadolygu a/neu eu storio.
Mae gan ein swyddogion gysylltiad uniongyrchol â’r heddlu felly mewn argyfwng, mae modd i ni anfon ein wardeiniaid allan er mwyn sicrhau ymateb cyflym, uniongyrchol a rheoledig i unrhyw sefyllfa sy’n codi nes daw’r Gwasanaethau Brys.

Gwasanaethau Cadw Allweddi

Mae ein Canolfan Derbyn Larymau yn cynnig gwasanaethau cadw allweddi.  Mae ein swyddogion cymwys sydd wedi’u trwyddedu gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ddod i’ch eiddo mewn argyfwng.
Gall swyddogion ymateb ymroddgar y Ganolfan nôl allweddi o leoliad diogel, felly gallwch chi deimlo’n ddiogel o wybod bod modd i rywun ddod atoch waeth beth fo’r amgylchiadau.

Wardeiniaid yr Adeilad

Mae gweithwyr diogelwch yn hollbwysig er mwyn diogelu’r adeilad, aelodau a’r gweithwyr felly mae gwybod bod y bobl orau oll yn gofalu amdanoch yn tawelu’r meddwl. Mae wardeiniaid adeilad y Ganolfan yn cynnig sicrwydd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i’n cwsmeriaid. Os oes sefyllfa’n codi, neu larwm yn seinio yn eich adeilad neu yn eich busnes, byddai’r tîm rheoli’n anfon swyddog ADD wedi ei hyfforddi er mwyn sicrhau ymateb cyflym, yn syth bin.

Rheoli Mynediad

Gall y Ganolfan gynnig gwell rheolaeth dros pwy all ddod i’r adeilad, trwy adael i chi atal pobl rhag mynd a dod yn electronig. Mae’r tîm diogelwch wrth law i sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn ddiogel.  Mae Rheoli Mynediad yn cynnig diogelwch personol gwell ond gall hefyd fonitro cofnodion amser a phresenoldeb.

Larymau ac Ymateb

Rydym yn cynnig ystod eang o larymau tresbaswyr a thân er mwyn ateb gofynion eich cyllideb a’ch adeilad er mwyn cadw’r cyhoedd a’r gweithle’n ddiogel. Mae ein systemau wedi eu dylunio’n arbennig ar eich cyfer a gallant ateb gofynion cwmnïau yswiriant.

Er eich Diogelwch

Mae ein canolfan ymroddgar yn cynnig Camerâu Cylch Cyfyng, diogelwch, larymau tân ac amgylchedd. Rydym yn rhoi sicrwydd meddwl i chi o ran ymwelwyr, cyflogai, asedau ac eiddo.

Gallwch ymddiried yn nhîm y Ganolfan, sy’n ddiduedd ac yno i chi bob amser.

Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad i gostio gwasanaethau, cysylltwch â ni.

    Eich enw (gofynnol)

    Ffôn

    E-bost (required)

    Math o Ymholiad

    PreifatSector Cyhoeddus

    Dewis ddull o gyswllt

    FfônE-bost

    Diddordebau - Ticiwch y rhai sy’n berthnasol

    Ymholiad

    Ffôn: 029 2038 1850

    E-bost: arc@caerdydd.gov.uk

    ARC
    Tŷ Willcox
    Dunleavy Drive
    CF110BA

    Sylwadau, cwynion a chanmoliaeth
    CYFRANIAD TCC AT BLISMONA LLEOL

      CYFRANIAD TCC AT BLISMONA LLEOL

      Mae'r Cyngor am nodi sut mae TCC yn cyfrannu at ac yn cynorthwyo gwaith yr Heddlu o wneud Caerdydd yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt. I'r perwyl hwn byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi'r wybodaeth ganlynol

      Nodwch isod sut mae'r defnydd o TCC wedi cynorthwyo gyda'ch ymchwiliad

      Dyddiad y Digwyddiad

      Sgoriwch ein gwasanaeth cyffredinol

      ArdderchogDaBoddhaolDrwg

      © Arc Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

      Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd